Thursday, 29 August 2024

Pros Kairon (1966)

Drama Gymraeg 
mewn Tair Act gan Huw Lloyd Edwards yw Pros Kairon a gyfansoddwyd ym 1965. 
Comisiynwyd y ddrama gan Gwmni Theatr Cymru ar gyfer ei llwyfanu yn Hydref 1966.

Daw teitl y ddrama o'r iaith 'Roegeg a'i ystyr yw "tros amser". Fe orffenir y ddrama gyda'r un llanast a welir ar ei chychwyn, ac felly hanes y llansast "dros amser" yw plot y ddrama.

Awdur : 
Huw Lloyd Edwards

Cyfarwyddo :
Wilbert Lloyd Roberts a George P Owen

'Cynorthwywr' :
Beryl Williams

Lleoliad :
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberafan 1966

Cast :
Martin : Stewart Jones
Mac - David Lyn
Sadi - Iona Banks
Greta - Gaynor Morgan Rees
Hen Ŵr - Ryan Davies / Islwyn Morris
Rolff - Clive Roberts
Rudi - Owen Garmon
Smith - Wyn Jones







Hen Ŵr - Ryan Davies / Islwyn Morris
Rolff - Clive Roberts
Rudi - Owen Garmon
Smith - Wyn Jones

Teledwyd y ddrama hon gan BBC Cymru ar yr 28 Chwefror 1967 gyda'r cast:[1]Martin - Stewart Jones
Mac - David Lyn
Sadi - Iona Banks
Greta - Gaynor Morgan Rees
Hen Ŵr - Ryan Davies / Islwyn Morris
Rolff - Clive Roberts
Rudi - John Hughes (John Ogwen)
Smith - Aubrey Richards

Yn ei hunangofiant, Hogyn O Sling, mae'r actor John Ogwen yn sôn yn benodol am y profiad o recordio'r fersiwn deledu o Pros Kairon: "Ychydig cyn imi adael y Coleg cefais alwad sydyn un diwrnod yn gofyn imi wneud drama deledu. Bu damwain ar y mynydd uwchben Waunfawr ac fe laddwyd yr actor Wyn Jones ac anafwyd Owen Garmon a Lisabeth Miles. Yr oedd Wyn ac Owen ar y pryd yn ymarfer Pros Kairon ar gyfer telediad ohoni ac fe benderfynwyd ail gastio er mwyn i'r telediad fynd rhagddo. Aubrey Richards a gafwyd i chwarae rhan Wyn a minnau i wneud rhan Owen."[2]

Mae John yn nodi hefyd pa mor nerfus oedd o yn wynebu actorion mor brofiadol â David Lyn, Gaynor Morgan Rees a Iona Banks, ac mai Pros Kairon oedd yr unig ddrama deledu i'w fam weld ei mab ynddi, gan iddi gael "strôc ddrwg" ychydig o wythnosau wedyn, a bu farw.[2]


Drama Gym


Cariad Creulon (1965)

1960au Cwmni Theatr Cymru

y 1960au

Mae peth amheuaeth ac anghytuno ynglŷn â pha gynhyrchiad oedd y cyntaf i Gwmni Theatr Cymru gan fod y Wales Theatre Company wedi cychwyn llwyfannu cynyrchiadau Cymraeg :

  • Cymru Fydd (1967)
  • Y Tenant Newydd (1968)
  • Under Milk Wood (1968)
  • Problemau Prifysgol (1968)
  • Tŷ Ar Y Tywod (1968)
  • Meistr Y Chwarae (1969)
  • Cilwg Yn Ôl (1969)
  • Dawn Dweud (1969)
  • Y Ffordd (1969)
  • Y Gelyn Pennaf 



Croeso i Archif (answyddogol) Cwmni Theatr Cymru 1965-1984

Yn 2025, mi fydd hi'n 60 mlynedd ers sefydlu Cwmni Theatr Cymru. Doeddwn i'm yn bod, bryd hynny. Ar ddiwedd y 1970au y desh i'n ymwybodol o waith y Cwmni, yn 6 oed.   Y pantomeim Mwstwr y Clwstwr (1979). Theatr Gwynedd oedd y lle a'r wefr. Gwefr sy' 'di'n nghynnal i am ddeugain mlynedd a mwy!

Erbyn 2024, dwi 'di gweld dros 1,200 o gynyrchiadau Theatr o Gaeredin i Gaerdydd; o Ddolwyddelan i Ddulyn; o Vauxhall i Valletta. Ond dwi'n dal i gofio'r cynyrchiadau cynnar. Ar ôl y Mwstwr - (neu Mwstwr YN y Clwstwr fues i'n deud am ddeugain mlynadd!), doedd 'na ddim dal. Ymladd am sedd ar y bws blynyddol i Fangor!.  Guto Nyth Cacwn (1980) oedd y nesa, wedyn Rasys Cymylau (1981) a honno oedd y ffefryn.  Dwi'n dal i glywed y "Hei, hei, hei Mrs Enfys, cofiwch fi at Heulwen Haf!" a drysu wedyn rhwng Elliw Haf y sioe a Heulwen Haf S4C! Gari Williams fel 'Micos', os di'n nghô i'n dal. Noa (1982) - ddim cweit yn banto ond wedi mwynhau 'run fath. A dyna ni, fy mhrofiad olaf, cyn fy hudo at gynnyrch Cwmni Theatr Gwynedd drwy bantomeimiau Hwyl a Fflag

O'n i'n rhy ifanc i weld na gwybod am y degau o gynyrchiadau eraill a fu rhwng bob panto. Yn y blynyddoedd a ddilyn, clywed sôn neu ryfeddu o weld llunia cynyrchiadau fel Oidipos Frenin (1980), Pont Robat (1981) ac Hywel A (1979). Wedyn bedyddio"trydydd babi" Huw Roberts (chwedal John Ogwen) Plas Dafydd (1987) gan Gwmni Theatr Gwynedd. Gweld fflatia cynhyrchiad Hedda Gabler (1982) yn Neuadd PJ, Bangor tra'n y Coleg Normal (1991-1994) a dod i garu gweledigaeth theatrig Gwenlyn Parry yn Saer Doliau (1977) ac Y Tŵr (1978). Er na welais y llwyfannu cynta, mi gesh i weld cynyrchiadau nodedig. Cofio bod yn Theatr Gwynedd ar y noson y bu Gwenlyn farw, a cynhyrchiad Arad Goch o Saer Doliau (1991) ar fin cychwyn. Tawelwch a'r Parch haeddianol.  Y Tŵr (1995) wedyn, a John a Maureen yn ein cyfareddu wrth fentro ail-ddringo'r Tŵr, wedi cyfnod o ddeunaw mlynedd. Rhyw gylchu fel na fu fy mywyd am yr hannar can mlynadd ola.

Tri chylch arall a'm daliodd, profiad gwaith ar gynhyrchiad Ffilmiau'r Tŷ Gwyn o ddrama Saunders Lewis, Brad (1994) yn Haf 1993. Bythefnos o brofiad i fod, ond ar ôl wythnos, gesh i gynnig gwaith. Dod i adnabod tri arall wedyn o griw chwedlonol y Cwmni Theatr, sef Dewi (Bach) Huws, Gwynfryn (Til) Roberts a Keith (Sling) Richards. Mae gennai atgofion a straeon am y tri, ond nid yma 'di'r lle. 

Yr actorion wedyn, J.O Roberts (nabod o'r gwyliau dramâu ac un fu'n andros o gefnogol imi); yr unigryw annwyl Huw Tudor a'i lais dros-ben-llestri theatrig. Anghofiai fyth mo'i "Seig Heil!" anhygoel deirgwaith, wrth ffilmio yng Nglynllifon, a phawb o'r criw tu fewn a thu fas, yn gorfod dal eu chwerthin nes i Gareth Wynn alw "cut!". Wedyn allan â phawb yn eu dagra, methu dal ddim mwy!.  Huw druan. Robin Griffith wedyn, yr eicon a'm dychrynodd o ddyddiau'r 'Barwn Coch' a'i hiwmor direidus diddiwedd. Lyndsay a Grey Evans, Cefin a Dyfan Roberts a'r hamddenol annwyl Noel Williams. A'r fraint o gwrdd â Myfanwy Talog, dwy flynedd cyn iddi farw. Er mai ond un frawddeg fechan oedd ganddi fel y madàm yn y puteindy, mi arhosith y "Tama'd bach blasus ganol dydd, Cyrnol Albrecht?" a'i chwerthiniad finiog foddhaus, efo mi byth.

Ond dwi'n crwydro gormod rwan. Yn ôl at y bwriad. Pam cychwyn yr Archif answyddogol? Am y rheswm syml, na fedrais ganfod yr un Archif gyfansawdd ar-lein. Cwmni Theatr Cymru, na Chwmni Theatr Gwynedd. Mae gan Martin Morley wefan werthfawr, sy'n drysor i Garedigion y Theatr, ond mae gan yntau fylchau. Y sioeau cynnar neu'r rhai na gynlluniodd.  Felly hefyd y corws o actorion sy' 'di gadal y llwyfan, a mynd â'u hatgofion efo nhw. Diolch byth am yr hunangofiannau gwerthfawr sy'n rhoi blas o brysurdeb y cyfnod. 

Felly, rhyw awydd i ddod â'r cyfan at ei gilydd mewn un lle.  Gan nad oes unrhyw fudd ariannol, dwi'n gobeithio y caf ganiatâd yr Archifdai a'r Llyfrgell Genedlaethol i gynnwys y lluniau, a'r Gweisg i gynnwys yr atgofion. Methais ganfod rhestr gyflawn o'r cynyrchiadau hyd yn oed, rhywbeth roedd Huw Roberts yn bryderus amdano.

Lle i gychwyn? Tudalen lawn o fynegai neu fwydlen i'r wledd sydd i ddod. 

Pros Kairon (1966)

Drama Gymraeg  mewn Tair Act gan Huw Lloyd Edwards yw Pros Kairon a gyfansoddwyd ym 1965.  Comisiynwyd y ddrama gan Gwmni Theatr Cymru ar...