Yn 2025, mi fydd hi'n 60 mlynedd ers sefydlu Cwmni Theatr Cymru. Doeddwn i'm yn bod, bryd hynny. Ar ddiwedd y 1970au y desh i'n ymwybodol o waith y Cwmni, yn 6 oed. Y pantomeim Mwstwr y Clwstwr (1979). Theatr Gwynedd oedd y lle a'r wefr. Gwefr sy' 'di'n nghynnal i am ddeugain mlynedd a mwy!
Erbyn 2024, dwi 'di gweld dros 1,200 o gynyrchiadau Theatr o Gaeredin i Gaerdydd; o Ddolwyddelan i Ddulyn; o Vauxhall i Valletta. Ond dwi'n dal i gofio'r cynyrchiadau cynnar. Ar ôl y Mwstwr - (neu Mwstwr YN y Clwstwr fues i'n deud am ddeugain mlynadd!), doedd 'na ddim dal. Ymladd am sedd ar y bws blynyddol i Fangor!. Guto Nyth Cacwn (1980) oedd y nesa, wedyn Rasys Cymylau (1981) a honno oedd y ffefryn. Dwi'n dal i glywed y "Hei, hei, hei Mrs Enfys, cofiwch fi at Heulwen Haf!" a drysu wedyn rhwng Elliw Haf y sioe a Heulwen Haf S4C! Gari Williams fel 'Micos', os di'n nghô i'n dal. Noa (1982) - ddim cweit yn banto ond wedi mwynhau 'run fath. A dyna ni, fy mhrofiad olaf, cyn fy hudo at gynnyrch Cwmni Theatr Gwynedd drwy bantomeimiau Hwyl a Fflag.
O'n i'n rhy ifanc i weld na gwybod am y degau o gynyrchiadau eraill a fu rhwng bob panto. Yn y blynyddoedd a ddilyn, clywed sôn neu ryfeddu o weld llunia cynyrchiadau fel Oidipos Frenin (1980), Pont Robat (1981) ac Hywel A (1979). Wedyn bedyddio"trydydd babi" Huw Roberts (chwedal John Ogwen) Plas Dafydd (1987) gan Gwmni Theatr Gwynedd. Gweld fflatia cynhyrchiad Hedda Gabler (1982) yn Neuadd PJ, Bangor tra'n y Coleg Normal (1991-1994) a dod i garu gweledigaeth theatrig Gwenlyn Parry yn Saer Doliau (1977) ac Y Tŵr (1978). Er na welais y llwyfannu cynta, mi gesh i weld cynyrchiadau nodedig. Cofio bod yn Theatr Gwynedd ar y noson y bu Gwenlyn farw, a cynhyrchiad Arad Goch o Saer Doliau (1991) ar fin cychwyn. Tawelwch a'r Parch haeddianol. Y Tŵr (1995) wedyn, a John a Maureen yn ein cyfareddu wrth fentro ail-ddringo'r Tŵr, wedi cyfnod o ddeunaw mlynedd. Rhyw gylchu fel na fu fy mywyd am yr hannar can mlynadd ola.
Tri chylch arall a'm daliodd, profiad gwaith ar gynhyrchiad Ffilmiau'r Tŷ Gwyn o ddrama Saunders Lewis, Brad (1994) yn Haf 1993. Bythefnos o brofiad i fod, ond ar ôl wythnos, gesh i gynnig gwaith. Dod i adnabod tri arall wedyn o griw chwedlonol y Cwmni Theatr, sef Dewi (Bach) Huws, Gwynfryn (Til) Roberts a Keith (Sling) Richards. Mae gennai atgofion a straeon am y tri, ond nid yma 'di'r lle.
Yr actorion wedyn, J.O Roberts (nabod o'r gwyliau dramâu ac un fu'n andros o gefnogol imi); yr unigryw annwyl Huw Tudor a'i lais dros-ben-llestri theatrig. Anghofiai fyth mo'i "Seig Heil!" anhygoel deirgwaith, wrth ffilmio yng Nglynllifon, a phawb o'r criw tu fewn a thu fas, yn gorfod dal eu chwerthin nes i Gareth Wynn alw "cut!". Wedyn allan â phawb yn eu dagra, methu dal ddim mwy!. Huw druan. Robin Griffith wedyn, yr eicon a'm dychrynodd o ddyddiau'r 'Barwn Coch' a'i hiwmor direidus diddiwedd. Lyndsay a Grey Evans, Cefin a Dyfan Roberts a'r hamddenol annwyl Noel Williams. A'r fraint o gwrdd â Myfanwy Talog, dwy flynedd cyn iddi farw. Er mai ond un frawddeg fechan oedd ganddi fel y madàm yn y puteindy, mi arhosith y "Tama'd bach blasus ganol dydd, Cyrnol Albrecht?" a'i chwerthiniad finiog foddhaus, efo mi byth.
Ond dwi'n crwydro gormod rwan. Yn ôl at y bwriad. Pam cychwyn yr Archif answyddogol? Am y rheswm syml, na fedrais ganfod yr un Archif gyfansawdd ar-lein. Cwmni Theatr Cymru, na Chwmni Theatr Gwynedd. Mae gan Martin Morley wefan werthfawr, sy'n drysor i Garedigion y Theatr, ond mae gan yntau fylchau. Y sioeau cynnar neu'r rhai na gynlluniodd. Felly hefyd y corws o actorion sy' 'di gadal y llwyfan, a mynd â'u hatgofion efo nhw. Diolch byth am yr hunangofiannau gwerthfawr sy'n rhoi blas o brysurdeb y cyfnod.
Felly, rhyw awydd i ddod â'r cyfan at ei gilydd mewn un lle. Gan nad oes unrhyw fudd ariannol, dwi'n gobeithio y caf ganiatâd yr Archifdai a'r Llyfrgell Genedlaethol i gynnwys y lluniau, a'r Gweisg i gynnwys yr atgofion. Methais ganfod rhestr gyflawn o'r cynyrchiadau hyd yn oed, rhywbeth roedd Huw Roberts yn bryderus amdano.
Lle i gychwyn? Tudalen lawn o fynegai neu fwydlen i'r wledd sydd i ddod.
No comments:
Post a Comment